Ein cyf/Our ref: MA-P-KS-3370-19
Nick Ramsay AC
Cadeirydd
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
20 Medi 2019
Annwyl Nick,
Rwy'n deall bod eich pwyllgor yn cynnal adolygiad byr o'r broses o reoli Maes Awyr Caerdydd, a'ch bod eisoes wedi derbyn tystiolaeth gan dîm y Maes Awyr, ac y byddwch yn fuan yn derbyn tystiolaeth gan swyddogion.
Hoffwn roi'r newyddion diweddaraf ichi ar y broses o ddod o hyd i Gadeirydd newydd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf (CIAL).
Mae'r Cadeirydd presennol, Roger Lewis, i adael ym mis Hydref pan ddaw ei gyfnod o 4 blynedd i ben. Er mwyn paratoi ar gyfer hyn, yn gynharach eleni, cynhaliodd CIAL broses recriwtio agored, gystadleuol i drefnu olynydd Roger am y 4 blynedd nesaf.
Rwyf yn falch iawn o gadarnhau bod yr ymgeisydd a ffafriwyd gan CIAL wedi derbyn y swydd. Fodd bynnag oherwydd eu trefniadau dan gontract presennol, nid yw'r ymgeisydd yn gallu dechrau ar ei swydd tan Mehefin 2020. Ni allwn felly gadarnhau enw y person sydd i olynu Roger ar hyn o bryd.
Oherwydd yr amgylchiadau hyn, rwy'n ddiolchgar iawn i Robert sydd wedi cytuno i aros yn ei swydd tan 31 Mai 2020 er mwyn sicrhau cysondeb yn y maes awyr yn ystod y cyfnod hwn. Rwy'n siŵr y bydd Roger yn parhau i roi ei sylw ac i arwain yn y swydd bwysig hon.
Ar ran Llywodraeth Cymru hoffwn ddiolch i Roger am y gwaith mawr y mae eisoes wedi'i wneud yn y maes awyr, ac a fydd yn parhau i'w wneud nawr tan fis Mehefin.
Byddaf yn ysgrifennu atoch eto yn nes at yr amser i gadarnhau enw Cadeirydd newydd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.
Yn gywir,
Ken Skates AC/AM
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Minister for Economy and Transport